Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych
Gweledigaeth newydd am ddarpariaeth cerdd yn Sir Ddinbych
AMDANOM NI
Dull newydd o ddarparu cerdd
Sefydliad llwyddiannus dim-er-elw yn cyflwyno darpariaeth cerdd safonol yn Sir Ddinbych yw Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych.
Rydym yn cynnig dull newydd o ddarparu cerdd ledled y sir, a ni yw’r prif gorff cydweithredol cerdd yng Nghymru.
Gwersi Mewn Ysgol
Rydym yn cyflwyno gwersi cerdd mewn ysgol i ddisgyblion o oedran Ysgol Gynradd i flwyddyn olaf Ysgol Uwchradd ledled y sir.
Ensemblau
Rydym hefyd yn cynnal amrywiaeth o ensemblau a chorau, yn ystod ysgol ac ar ôl ysgol, gyda chyngherddau blynyddol gan y ddau.
Cyrsiau Lles
Yn ystod yr haf a gwyliau ysgol, rydym yn cynnal ystod eang o gyrsiau cerdd a lles sydd ar gael i holl blant a phobl ifanc gogledd Cymru.
Cafodd ein holl diwtoriaid hyfforddiant diweddaraf COVID-19 ac felly’n darparu gwersi cerdd wyneb-yn-wyneb yn ddiogel.

PARTNERIAID
Mudiadau Cefnogol a Phartneriaid
Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth nifer o fudiadau yn cynnwys Undeb y Cerddorion, Canolfan Cydweithredol Cymru, Elusennau’r Tywysog, Sefydliad Andrew Lloyd Webber a Chwmni’r Drapers.
Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Ddinbych a holl ysgolion y sir.