Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych
Cwynion Cwsmer Gweithdrefn1) Cyflwyniad
1.1) Mae Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych (sydd o hyn ymlaen i gael ei adnabod fel y Cwmni Cydweithredol) yn ymroi i ddarparu gwasanaeth o’r safon uchaf. Er mwyn gwella ansawdd y gwasanaeth a ddarperir, mae cwsmeriaid (ysgolion a rhieni) yn cael eu hannog i gyfeirio unrhyw bryderon i’r Athro-Aelod neu i swyddfa’r Cwmni Cydweithredol.
2) Beth yw cwyn?
“Cwyn yw mynegiant o anfodlonrwydd, sut bynnag y mae yn cael ei wneud am safon y gwasanaeth, gweithredu neu ddiffyg gweithredu gan y Cwmni Cydweithredol, ei gyflogwyr, neu Athro-Aelodau, sydd yn effeithio ar gwsmer unigol neu grwpiau o gwsmeriaid”
2.1) Mae’r diffiniad hwn yn ddigon eang i gwmpasu y rhan fwyaf o gwynion megis:
- anfodlonrwydd gyda gweinyddiaeth
- delays in responding to service requests
- anallu i gyflawni safonau o wasanaeth
- anallu i gyflawni cyfrifoldebau statudol
- ymddygiad neu agwedd gweithwyr neu Athro-Aelodau.
2.2) Cofnodir yr holl gwynion a’u montiro gan y Rheolwr Swyddfa.
3) Wrth dderbyn cwyn
3.1) Petae rhiant neu ysgol yn dymuno gwneud cwyn am Athro-Aelod, fe’u hanogir i ddilyn y gweithdrefn canlynol:
Cam 1:
Dylid cyfeirio cwynion at y Rheolwr Swyddfa a fydd, yn ymchwilio i fewn i’r mater o fewn 5 niwrnod gwaith. Gwneir pob ymdrech i ddatrys y mater gan yr Athro-Aelod a’r ysgol/rhiant trwy gynnal trafodaeth ffôn neu gyfarfod wyneb yn wyneb. Os yn briodol, bydd y Rheolwr Swyddfa yn cyfathrebu deilliant hyn i’r person sydd wedi cyflwyno’r gwyn yn y lle cyntaf.
Cam 2:
Os yw’r mater yn parhau heb ei ddatrys yna bydd modd i’r ysgol neu riant ysgrifennu at y Cadeirydd. Bydd y Cadeirydd neu aelod arall o Fwrdd y Cyfarwyddwyr yn ymchwilio i’r mater, gan gymryd y camau priodol gan gadw at Côd Ymarfer Proffesiynnol y Cwmni cydweithredol a’r Cytundeb Aelodaeth Athro. Bydd y sawl a gwynodd yn cael ei hysybysu o’r deilliant.