Amdanom Ni

Cynhelir gan gerddorion er budd holl ddisgyblion a phobl ifanc Sir Ddinbych.

AELODAU

Ffurfiwyd gan ein aelodau

Ein aelodau ydym ni. Ymdrech ein haelodau ar y cyd sydd wedi creu’r cwmni sydd gennym heddiw. Mae pob aelod yn gyfrifol am ei waith ei hun, ac am adrodd yn ôl i’r corff cydweithredol.

o aelodau

o arbenigeddau gwahanol

CYFARWYDDWYR

Cyfarwyddo o brofiad

Fe’n llywodraethir gan ein Bwrdd Cyfarwyddwyr a’r Cadeirydd.

Mae pob un o’n cyfarwyddwyr yn gyfrifol am wasanaeth hwylus a pharhad y cwmni, yn ogystal ag arolygu gwaith ein haelodau a’r tîm gweinyddol.

Daw pob cyfarwyddwr unigol â gwahanol fath o arbenigedd i’r grŵp, gan ddarparu arweiniad i’r corff cydweithredol yn y maes hwnnw.

DMC HQ

SWYDDFA

Rheolir o’n swyddfa

Mae’r holl aelodau’n gyfrifol am eu gwaith eu hunain ond cânt eu cyfarwyddo gan ein tîm gweinyddol bychan o Ddinbych a’r cyffiniau sy’n gweithio yn ein swyddfeydd canolog neu o’u cartrefi.

Lleolir ein pencadlys ar Stad Ddiwydiannol Colomendy yn Ninbych, lle mae ein Tîm Gweinyddol, ystafell gyfarfod i’n Cyfarwyddwyr, gofod addysgu i’n Aelodau, a gofod eang i’n Ensemblau ymarfer neu ar gyfer Sesiynau Hyfforddi Aelodau.

CYDWEITHREDU

Gweithio fel tîm

i

Rheoli Llogi

Ein swyddfa ganolog sy’n derbyn a phrosesu llogi gwersi yr holl ddisgyblion, unai trwy’r ysgolion, neu gan rieni sydd wedi llogi’n uniongyrchol. Ein tîm gweinyddol yw’r man cyswllt sy’n ymdrin â holl ymholiadau ein haelodau.

R

Sicrhau Cydymffurfiaeth

Rhaid i’n holl aelodau gael tystysgrif GDG (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) gyfredol a derbyn hyfforddiant diogelu a gofal plant yn gyson. Bydd hyn yn sicrhau ysgolion ac awdurdodau lleol fod eu disgyblion mewn dwylo diogel.

Cyflwyno Gwersi

Gall ein tîm cynyddol o gerddorion ac athrawon dosbarth gynorthwyo i gyflwyno ystod eang o wersi offerynnol, lleisiol a theori i ddisgyblion ledled y sir. Rydym hefyd yn gallu darparu sesiynau dosbarth cyfan i ysgolion.

GWOBRAU

Cynnal gwasanaeth sy’n ennill gwobrau

Rydym yn eithriadol o falch fod ein gwaith caled yn cael ei gydnabod. Isod, fe welir rhai o’r llu gwobrau yr ydym wedi’u hennill gyda’n gilydd dros y blynyddoedd.

Social Business Wales Awards: Watch Online

Social Business Wales Awards: Watch Online

We are still ecstatic to have won the Tech for Good category at this year’s Social Business Wales Awards yesterday. We thoroughly enjoyed yesterdays ceremony online, and if you would like to watch the event, you can now watch the afternoon back on YouTube:...

Social Business Wales Awards: Tech for Good

Social Business Wales Awards: Tech for Good

We are thrilled to announce that DMC & WMC have won the Tech for Good category at this year’s Social Business Wales Awards. The Social Business Wales Awards were held virtually for the first time today. The Awards are part of the Social Business Wales project...

Daily Post Business Awards – Winners’ Lunch

Director Ben Neal will be representing Denbighshire Music Co-operative today at the Daily Post Business Awards winners' lunch. We are very much looking forward to meeting all of the other businesses there and hearing their success stories.